Week of Pines album cover

Georgia Ruth – Codi Angor Lyrics

Mae hi'n llenwi'n gyflym hogiau bach
Mae ein cwrs ni am y cefnfor
Rhaid inni bellach ganu'n iach
Pryd gawn ni godi'r angor?

Y mae'r Blue Peter yn ei lle
Mae ein cwrs ni am y cefnfor
Cawn weled eto groes y de
Pryd gawn ni godi angor?

Mae gwledydd pell tu draw i'r môr
Mae ein cwrs ni am y cefnfor
Mae heulwen yn San Salvador
Pryd gawn ni godi'r angor?

Ffarwél fy nghariad, hir yw'r daith
Mae ein cwrs ni ar y cefnfor
Rwyf wedi gaddo priodi saith
Pryd gawn ni godi angor?

Pryd gawn ni godi angor?

Comments (0)